Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Ionawr 2022
Amser: 08.45 - 12.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12584
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Alun Davies AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Richard John, Cyngor Sir Fynwy Dr Chris Llewelyn, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Judith Cole, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol:
· Carolyn Thomas AS;
· Joel James AS;
· Sam Rowlands AS.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 1 –Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Y Cynghorydd Richard John, Arweinydd Cyngor, Cyngor Sir Fynwy
Chris Llewelyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2
4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 2 - y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
5.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng Covid-19, Llywodraeth Cymru
Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyllid Llywodraeth Leol a Chynaliadwyedd, Llywodraeth Cymru
5.2. Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu rhagor o wybodaeth am:
· Y ffrydiau cyllid grant a sut y caiff canlyniadau’r buddsoddiadau ariannu eu gwerthuso;
· sut mae amcanion ar gyfer llywodraeth leol yn cael eu pennu a sut mae canlyniadau cyflawni yn cael eu gwerthuso yn erbyn yr amcanion (rhoddwyd enghraifft yn ystod y meysydd holi ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a dywedodd y Gweinidog y byddai’n gofyn i’r Gweinidog perthnasol, fodd bynnag roedd yr Aelod yn cyfeirio at lywodraeth leol yn gyffredinol);
· y polisi sy’n cyd-fynd â’r cyllid o £60 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer diwygio yn y sector gofal;
· y ffrwd ariannu a fydd yn darparu’r £103 miliwn a ddyrannwyd i wario ar hylendid ac awyru mewn lleoliadau addysg oherwydd pandemig Covid, gan gynnwys eglurder ynghylch a yw hwn yn gyllid newydd neu a yw wedi cael ei ailgyfeirio o rywle arall oherwydd tanwariant;
· uchelgeisiau ac amcanion rôl y Prif Swyddog Digidol, ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r sector rhentu preifat yng Nghymru
6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r sector rhentu preifat yng Nghymru.
6.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Brif Weithredwr Senedd Cymru mewn perthynas â’r defnydd o’r term BAME
6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Brif Weithredwr Senedd Cymru mewn perthynas â’r defnydd o’r term BAME.
6.3 Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-Sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru
6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-Sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru.
6.4 Llythyr gan Shelter Cymru mewn perthynas â thai yng Nghymru
6.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Shelter Cymru mewn perthynas â thai yng Nghymru.
6.5 Adroddiad gan Sefydliad Bevan: "A snapshot of poverty in Winter 2021"
6.5.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Sefydliad Bevan: “A snapshot of poverty in Winter 2021”.
6.6 Llythyr gan CladDAG - Leaseholder Disability Action Group ynglŷn â diogelwch adeiladau
6.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan CladDAG – Leaseholder Disability Action Group – ynglŷn â diogelwch adeiladau.
6.7 Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â digartrefedd
6.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â digartrefedd.
6.8 Llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynglŷn â'r adolygiad o amserlenni a chylchoedd gwaith pwyllgorau
6.8.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes mewn perthynas ag adolygiad o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau.
7 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 6
7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau
8.1. Trafododd y Pwyllgor adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau.